top of page

Cefnogwch Ni

Mae cymaint o ffyrdd o gymryd rhan yng Ngerddi Bro Ddyfi! O roi eginblanhigion i wirfoddoli i waith gweinyddol - mae pob tamaid o help a gawn yn gwneud gwahaniaeth anhygoel! Dyma rai syniadau...

Gwirfoddoli i gynnal a chadw'r safle

Hoffi baeddu eich dwylo? Mae angen llawer o gariad a sylw ar ein gerddi mawr, ac rydym bob amser yn ddiolchgar am unrhyw gymorth a gawn i  gynnal a chadw'r safle. Cadwch lygad allan am ein diwrnodau Gwirfoddoli ymunedol misol, neu anfonwch neges atom os oes rhyw fath o sgil penodol yr hoffech ei rannu gyda ni (gwaith coed, tocio, DIY cyffredinol, plethu helyg, adeiladu - mae peb dim yn help! O bryd i'w gilydd, mae angen help arnom gyda thasgau penodol, megis rhei cynhwysydd morgludo fflatpac at ei gilydd neu osod meinciau newydd. Os hoffech helpu gyda thasgau achlysurol o'r fath, cysylltwch â ni isod

Ymunwch â'n Pwyllgor

Gwirfoddoli fel Cydlynydd Sesiwn 

Hoffech chi ennill  profiad gwaith  mewn prosiect garddwriaeth Gymdeithasol a Therapiwtig? Gallwn eich cefnogi i roi cynnig ar arwain rhai gweithgareddau.

Oes gennych chi'r sgiliau, profiad neu ddiddordeb yn y gwaith 'tu ôl i'r llenni' o redeg elusen? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Mae gennym ystod eang o dasgau y byddem wrth ein bodd yn cael eich cymorth gyda nhw, ac rydym yn hapus i ddod o hyd i dasgau sy'n addas i'ch diddordebau. Gallai hyn gynnwys: codi arian (o ysgrifennu ceisiadau grant i redeg arwerthiannau pobi), cyfryngau cymdeithasol, cyllid, ysgrifennu blogiau, ac ati!

Ymunwch tîm â'n Stondin Farchnad  

Ymunwch â'n rhestr 'yn fodlon i ni gysylltu â chi'

Os oes gennych chi bob amser ormodedd o eginblanhigion yr hoffech chi eu rhoi, neu os hoffech chi fwynhau'r cyfle i ffeirio gyda chwsmeriaid ar stondin farchnad, rydyn ni'n cynnal cyfres o stondinau ym marchnad tref Machynlleth yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. 

Weithiau mae angen help arnom sydd angen swyddi penodol gyda sgiliau penodol. Os oes gennych brofiad yn unrhyw un o'r canlynol, byddem wrth ein bodd yn eich ychwanegu at ein rhestr o 'fodlon i ni gysylltu â chi'. Mae hyn yn golygu y byddwn yn achlysurol yn galw arnoch am eich sgiliau a'ch arbenigedd:

— Cyfieithu Cymraeg

- Tasgau gardd trymach ee symud pridd neu leoli dodrefn awyr agored

- Codi arian/ysgrifennu cynigion

- Ysgrifennu polisi

- Trefnu digwyddiadau

Os oes gennych chi ddidderdeb yn yr uched, cysylltwch!

Thanks for submitting!

Gwneud Rhodd

Eisiau helpu i gadw ein gerddi i fynd a thyfu? Fel elusen fach mae eich rhoddion yn amhrisiadwy i'n helpu gydag offer, hadau, cynnal a chadw, a'r holl bethau bach eraill sy'n gwneud ein mannau gwyrdd yn hafan i fywyd gwyllt a phobl.

bottom of page