top of page
fern4328

Gylchlythyr Hydref 2024!

Annwyl ffrindiau,


Croeso i gylchlythyr Hydref 2024! Wrth i brysurdeb yr haf gael ei ddisodli gan oerfel a thawelwch yr hydref, rydym wedi cael cyfle o’r diwedd i roi diweddariad ichi ar yr hyn fu’n digwydd yn y gerddi.


Buom yn dal i gynnal ein sesiynau galw heibio wythnosol dros y gwanwyn a’r haf, gyda gwirfoddolwyr yn mwynhau cymysgedd o waith a chwarae yn ein gardd hardd. Bu gwirfoddolwyr yn helpu i drwsio ein pwll gwych, oedd yn gollwng; yn gosod arwyddion bywyd gwyllt hyfryd a gawsom yn rhodd gan yr arlunydd lleol, Alice Thomas; yn gwneud tasgau cynnal a chadw cyffredinol i helpu i gadw’r ardd yn lle deniadol i bobl a bywyd gwyllt!


Cawsom ein gwobrwyo’n hael am yr holl waith caled, gyda phentyrrau o afalau, eirin Mair i wneud jamiau; hadau i’w cadw a’u pecynnu ar gyfer eu hau yn y dyfodol; a llawer iawn o gacennau!


Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y prosiectau eraill a fu ar y gweill gennym.



Sesiynau Misol


Yn ystod yr hydref a’r gaeaf byddwn yn treialu sesiynau wythnosol ar y penwythnos yn hytrach na’n sesiynau wythnosol ar Ddydd Mawrth, i roi cyfle i fwy o bobl ymuno gyda ni! Mae’r sesiynau wedi cael dechreuad bendigedig, gydag ugain o bobl yn mynychu yn ystod Hydref a Thachwedd. Mae’n wych gweld cymaint o wynebau, hen a newydd, yn dod yn rhan o’n cymuned! Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys tacluso a gosod haenen o sglodion pren dros yr ardd berlysiau, gwneud addurniadau sêr helyg, gwneud bwyd tân blasus, a thacluso’r llwybrau.


Gweler isod am fanylion ein sesiynau yn Rhagfyr, a chadwch olwg am fanylion sesiynau sydd i ddod yn Ionawr - Mawrth!


Digwyddiadau

Sadwrn Pladuro

Ar Ddydd Sadwrn heulog ym mis Awst cawsom ddiwrnod gwych o bladuro, gydag 18 o wirfoddolwyr wrthi’n helpu i gadw’n gweirglodd bywyd gwyllt yn edrych yn hardd. Bu’r aelod pwyllgor Tom Brown yn helpu i roi cyfarwyddyd i’r rhai oedd yn newydd i’r grefft o bladuro, ac roedd gwên ar nifer o wynebau wrth i’r tîm fynd ati’n raddol i berffeithio’r grefft hynafol hon! Roeddem yn ffodus iawn hefyd yn cael mwynhau cerddoriaeth fendigedig gan Phil Wheeler ac Elaine, a ychwanegodd at yr awyrgylch diwedd haf bendigedig! Cadwyd rhai o’r blodau sych a’u gwau yn dorchau gan ein gwirfoddolwyr, dan gyfarwyddwyd ein harweinydd sesiynau dawnus, Jeanette Gray. Roedd y rhain yn wych i’w gwerthu mewn digwyddiadau codi arian. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu eitemau crefft tebyg i’w gwerthu mewn digwyddiadau codi arian, mi fyddem yn falch glywed gennych chi!



Noson Gwyfynod

Ym mis Hydref cawsom noson fendigedig yn cofnodi gwyfynod gyda Grŵp Gwyfynod Maldwyn. Gan ddefnyddio eu maglau proffesiynol, roedd yn wych gweld yr amrywiaeth o wyfynod sy’n hedfan o gwmpas yn yr hydref, o’i gymharu â phan fuon ni’n recordio yn yr haf. Cofnodwyd 21 rhywogaeth (rhestr ar gael yma). Roedd hyn, yn ôl y disgwyl, yn llai o lawer na’r 95 rhywogaeth a gofnodwyd yng Ngorffennaf 2023 - ond roedd y cyfan, serch hynny, yn brofiad rhyfeddol! Mi gawson ni gyfle hefyd i weld mathau eraill o fywyd gwyllt cyffrous, fel ystlumod, a’r Chwilen Gladdu hon, a welir yn y llun isod.




Llwyddiant Sally ar SpringWatch!


Ym mis Mehefin, roeddem wrth ein boddau bod ein gwirfoddolwr hirsefydlog, Sally Woof, wedi derbyn Gwobr Arwr Bywyd Gwyllt rhaglen SpringWatch y BBC!  Mi  wnaethon ni enwebu Sally am ei holl waith anhygoel yn y gerddi, ac am ein bod yn credu y dylai ei dull sensitif o arddio ar gyfer bywyd gwyllt fod yn ysbrydoliaeth i bawb.  Felly, fel y dywedodd Sally wrth Michaela Strachan – gadewch i’ch chwyn a’ch glaswellt dyfu’n hir!  Darllenwch fwy amdano yma.



Sesiynau Cyfle Newydd


Dros y gwanwyn a’r haf, buom yn mwynhau cyflwyno sesiynau wythnosol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau’r ganolfan ddydd Cyfle Newydd ym Machynlleth. Roedd yn wych cael help a chwmni’r grwp bendigedig yma, ac allwn ni ddim aros i ail-ddechrau’r sesiynau yn y gwanwyn! Roedd y gweithgareddau’n cynnwys plannu hadau, gwneud printiau ffabrig gydag afalau, gwneud breichledi o goesau danadl poethion, a llawer iawn mwy o brosiectau celf seiliedig ar natur!




Ffarwelio â Mike a Geraint


Yr haf hwn, roeddem yn hynod o drist o glywed am farwolaeth dau o’n gwirfoddolwyr hirsefydlog, sef Mike a Geraint.


Roedd Mike Williams yn gefnogwr triw ac yn aelod o bwyllgor Gerddi Bro Ddyfi ers y cychwyn cyntaf. Roedd ei wybodaeth o’r gymuned leol yn golygu y gallai ein cynghori am y bobl orau i gysylltu â nhw am y rhan fwyaf o faterion, ac roedd ganddo bob tro ddyfyniad defnyddiol ar gyfer y Cambrian News. Roedd bob amser yn gefnogol o’n garddwyr a’r gwaith a wneir gan bawb yma, a bob amser yn barod gyda sylw neu e-bost gwerthfawrogol ac ysgogol. Ond roedd hefyd yn caru bod yn yr awyr agored ac mi fyddai’n aml yn rhoi o’i amser i helpu yn y gerddi, fel arfer gyda gwaith eitha’ trwm, fel symud graean ar gyfer y llwybrau neu glirio llystyfiant. Roedd ei safbwyntiau cryf yn dangos pa mor bwysig oedd y cyfan iddo a’i fod eisiau’r gorau i Fachynlleth. Byddwn yn colli ei hiwmor a’i hynawsedd, a’i sylwadau athronyddol eironig yn fawr iawn.



Hyd yn oed ar ddiwrnodau glawog, roedd Geraint yn bresenoldeb dibynadwy a ffyddlon yn y gerddi - gyda’i gynhesrwydd enfawr, ei bositifrwydd a’i agwedd benderfynol tuag at bopeth oedd angen ei wneud! Mi wnaeth Geraint gymaint ar gyfer y gerddi. Os ydych chi wedi mwynhau mynd am dro yma ar unrhyw adeg, mae’n debygol iawn mai Geraint fu’n cario’r graean mewn berfa ar gyfer y llwybrau oedd dan eich traed, neu’r sglodion pren ar gyfer y gwelyau blodau y buoch chi’n eu hedmygu. Codwn hoff gwpanaid o siocled poeth a bisged amser te i gofio am Geraint! Bydd pawb yn y Gerddi yn colli ei bresenoldeb caredig, doniol ac ysbrydoledig yn fawr iawn. Gwsg yn Dawel.





Cyllid


Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cyllid yr hydref hwn oddi wrth Ymddiriedolaeth Elusennol y Gymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad (CLA), i ddal ati i gynnal ein sesiynau galw heibio cymdeithasol a therapiwtig yn 2025. Roeddem hefyd yn hynod ddiolchgar ac emosiynol o weld llwyddiant yr ymgyrch codi arian a sefydlwyd i gofio am ein harbenigwr natur annwyl, John Mason. Mae hyn yn golygu cymaint i ni, ac mi fydd yn gymorth enfawr i gefnogi’n gwaith. Gallwch ddarllen mwy am hyn a chyfrannu rhodd ariannol yma.




Ymddiriedolwyr newydd


Yr hydref hwn rydym wedi bod wrthi’n ceisio recriwtio ymddiriedolwyr newydd, i’n helpu gyda’r holl waith tu ôl i’r llenni sy’n angenrheidiol i sicrhau bod ein prosiect yn dal i ffynnu! Rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn nifer o geisiadau, ac rydym yn gobeithio cyflwyno ein hymddiriedolwyr newydd i’r gwaith yn fuan. Dydy hi ddim yn rhy hwyr i fynegi diddordeb mewn ymuno. Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch ddarllen mwy am hynny yma.





Gweithdy i ddod


Rydym yn falch iawn o fod yn cyd-gynnal digwyddiad gyda Tir Canol ym mis Rhagfyr!

Archwilio’r Ddyfi: Gweithdy Sgwrsio a Cherfio gydag Artist Preswyl Tir Canol, Veronica Calarco

Mae Tir Canol yn gymuned sy’n dylunio ac yn darparu canlyniadau positif ar gyfer natur a phobl drwy ein defnydd o’r tir a’r môr. Maent wedi derbyn arian gan Sefydliad Esmêe Fairbairn i gynnig cyfres o sesiynau artistiaid preswyl i artistiaid lleol sydd â chysylltiad â Dyffryn Dyfi.

Ar gyfer y prosiect hwn, mae Veronica’n archwilio afon Dyfi, yn dilyn yr afon a rhai o’i llednentydd, o’i tharddiad yng Nghreiglyn i’r môr, gan ddod i ben yn nyffryn afon Leri. Fel rhan o’r prosiect, mae Veronica yn creu gwaith gweledol ar yr afon, a fydd yn cynnwys straeon rhai o’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y dyffryn. Ar gyfer Gerddi Bro Ddyfi, bydd Veronica yn cynnal ymweliad â’r ardd, ac yna gweithdy yn y Plas, lle gall pobl adrodd eu straeon am y dyffryn a gweithio ar floc leino cydweithredol. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod sut i gerfio, bydd Veronica yn eich dysgu chi. Bydd y leino gorffenedig yn cael ei argraffu yn Stiwdio Maelor a gwahoddir pawb i ymuno yn yr argraffu.

Ymunwch â ni Ddydd Gwener 6 Rhagfyr rhwng 1pm a 4pm yn ystafell John Edwards yn y Plas, Machynlleth. Ebostiwch info@tircanol.cymru i archebu’ch lle.





----------------------------------------------------------


0 views0 comments

Comentários


bottom of page