Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Blog from the Gerddi Bro Ddyfi Garden

Back

0 BioBlitz June 2022

  • by Fern Towers
  • 15-11-2022
Your vote is:
0.00 of 0 votes

Between Friday 24th – Saturday 25th June, we hosted a wonderful celebration of wildlife here at Gerddi Bro Ddyfi Gardens, with a BioBlitz in collaboration with Machynlleth Biodiversity group. This event was kindly funded by the Ashley Family Foundation, which also allowed us to run a brilliant series of nature-based art workshops over the summer.

An impressive group of experts turned up to kindly offer their help on the day, including: Ben Porter; Caroline de Carle (Wildlife Trust, mammals); the Dyfi Biosphere Swift Project: Montgomeryshire Moth Group; North Ceredigion Bat Group; Tom Kistruck (RSPB, birds); Tracey Lovering (Lichens); Lottie Glover (Wildlife Trust); David Elias (flowering plants); Sarah Thomas (butterflies); Mark Lawley (mosses and liverworts); Phil Ward (invertebrates); Richard Becker (hymenoptera); Tom Brown (honeybees); and Kirsten Manley (The Woodland Trust).

With so much wildlife knowledge around, it is unsurprising that we counted a grand total of 342 species! A particular hats-off is given to Phil McGregor of the Montgomeryshire Moth Group, who stayed up until an 5:30am to keep an eye on the moth traps. Dedication!

Some highlight species included Spotted Flycatchers, Heath Spotted Orchid, a Fork Tailed Flower Bee (probably new for the area), and an amazing Conopid fly called Physocephela rufipes.

We also had a lovely range of stalls present on the day, to keep people fed and entertained in between sessions. This included a book stall from the Coch-Y-Bonddu bookstore, children’s activities with Clara Lloyd TicToc play, Montgomeryshire Wildlife Trust’s Green Connections, and some delectable Syrian food from our friends Arabic Flavour.

Given the success of this event, we are hoping to run another next year. Indeed, many of our recorders believe they’ve only just managed to scrape the surface of the wildlife we have here, so much more nature-hunting needs to be done! It was also lovely to see new connections between wildlife-lovers be made, and various groups receiving sign-ups from new members, as a result of the day.

If you’d like to be involved in the running of next year’s event in any way, or have some ideas for sessions/stalls we could include, get in touch with fern@gerddibroddyfigardens.co.uk

 

------------------

 

Rhwng dydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 Mehefin, cynhaliwyd dathliad arbennig o fywyd gwyllt yma yng Ngerddi Bro Ddyfi, gyda BioBlitz mewn cydweithrediad â grŵp Bioamrywiaeth Machynlleth. Ariannwyd y digwyddiad hwn yn garedig gan Sefydliad y Teulu Ashley, a roddodd ganiatâd i ni hefyd gynnal cyfres wych o weithdai celf yn seiliedig ar natur dros yr haf.

Daeth grŵp nodedig o arbenigwyr i gynnig eu cymorth ar y diwrnod, gan gynnwys: Ben Porter; Caroline de Carle (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, mamaliaid); Prosiect Gwennol Ddu Biosffer Dyfi: Grŵp Gwyfynod Sir Drefaldwyn; Grŵp Ystlumod Gogledd Ceredigion; Tom Kistruck (RSPB, adar); Tracey Lovering (Cennau); Lottie Glover (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt); David Elias (planhigion blodeuol); Sarah Thomas (gloÿnnod byw); Mark Lawley (mwsoglau a llysiau’r afu); Phil Ward (infertebratau); Richard Becker (hymenoptera); Tom Brown (gwenyn); a Kirsten Manley (Coed Cadw).

Gyda chymaint o wybodaeth am fywyd gwyllt o gwmpas, nid yw'n syndod ein bod wedi cyfrif cyfanswm o 342 o rywogaethau! Rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Phil McGregor o Grŵp Gwyfynod Sir Drefaldwyn, a arhosodd ar ei draed tan 5:30 a.m. i gadw llygad ar y maglau gwyfynod. Ymroddiad!

Roedd rhai o’r rhywogaethau a amlygwyd yn cynnwys y Gwybedog Mannog, Tegeirian Brych y Rhos, a Fork Tailed Flower Bee (sydd mae’n debyg yn newydd i’r ardal), a phryf Conopid rhyfeddol o’r enw Physocepela rufipes.

Roedd gennym ni hefyd amrywiaeth hyfryd o stondinau yn bresennol ar y diwrnod, i sicrhau bod pobl yn cael eu bwydo a'u difyrru rhwng sesiynau. Roedd hyn yn cynnwys stondin lyfrau o siop lyfrau Coch-y-Bonddu, gweithgareddau i blant gyda Chwarae TicToc Clara Lloyd, Cysylltiadau Gwyrdd Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, a bwyd hyfryd o Syria gan ein ffrindiau Arabic Flavour.

O ystyried llwyddiant y digwyddiad hwn, rydym yn gobeithio cynnal un arall y flwyddyn nesaf. Yn wir, mae llawer o’n cofnodwyr yn credu mai dim ond newydd lwyddo i grafu’r wyneb yr ydym wedi’i wneud o ran y bywyd gwyllt sydd gennym yma, felly mae angen gwneud llawer mwy o hela natur! Roedd hefyd yn hyfryd gweld cysylltiadau newydd yn cael eu creu rhwng y rhai sy’n caru bywyd gwyllt, a grwpiau amrywiol yn derbyn aelodau newydd, o ganlyniad i’r diwrnod.

Os hoffech chi fod yn rhan o gynnal digwyddiad y flwyddyn nesaf mewn unrhyw ffordd, neu os oes gennych chi rai syniadau ar gyfer sesiynau/stondinau y gallem eu cynnwys, cysylltwch â fern@gerddibroddyfigardens.co.uk