Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Blog from the Gerddi Bro Ddyfi Garden

  • 0 Spring Newsletter 2021

    • by Administrator
    • 03-08-2021
    0.00 of 0 votes

    Dear friends Welcome to the Spring newsletter. Although much of our Community Fund 'Tyfu gyda'n gilydd' / 'Growing together' project has been suspended during lockdown, the gardens have remained open to all, and we have been working to improve the site during the winter months. We are now looking forward to starting workshops, and perhaps small events, once restrictions lift. Also in our newsletter today, we have been reaching out into the community through our Climate Action Boost project from the National Lottery, while the Herbal Group is reaching beyond Wales - see below. Improving the gardens Over the winter we have finished off the ramp for the new bridge, widened the main path, and put in new edging and benches. We hope this will make it easier for more people to access the gardens and will enable visitors to enjoy the range of spaces we have.  The new 'chaise longue' bench by local craftsman Pete, gives a view across the wildflower meadow.Volunteers also worked on the wildlife pond, reducing the water level to prevent flooding of the main path, and creating a still area for amphibians. We now think we need yet another bench to appreciate the lovely view!The view across the wildlife pond to the new bridge.   Climate Action BoostThe ‘Climate Action Boost’ project , from the National Lottery Community Fund, has enabled us to work with local residents and groups who have volunteered as 'tree guardians' in Machynlleth and the Dyfi Valley, to plant and care for edible trees in public sites.  Local umbrella group 'Gelli Deg Dyfi Food Forest' has supported this work, and will carry on with the project beyond this funding. The ‘Tree Guardians’  have planted nearly 70 fruit and nut trees, including apples, pears, damsons, cherries and walnuts, as well as blackcurrants, blueberries and rhubarb. The trees and soft fruit are at 14 different sites, including Bryn Y Gog housing estate, Barcud housing association properties, the Plas estate, local schools, and children’s play parks in Corris, Ceinws and Cemmaes.   All the planting was done within Covid 19 guidelines to keep residents safe. Tom and Robin planted a 'Juneberry' in the Plas estate. Sweet and sour cherries at the entrance to the Plas, planted by tree guardians Jay, Sylvie, Amy and Gabi, with locally crafted tree guards. Herbalists without BordersAnita, GBDG's Assistant Volunteer Coordinator, and the Herbal group, which looks after the Apothecary Garden (starting again after 26th April), is going to be working with Herbalists without Borders UK.  This is an umbrella  group in the UK and Ireland who are collecting herbs for medicine to be given free to refugees in camps across Europe. Many of the plants which are particularly in demand already grow in the community gardens, such as lemon balm, mint, chamomile, elecampane, thyme, lavender, and ladies mantle.  If you would like to be a part of the mid Wales group please get in contact via anitya@riseup.net or 07983318893.Forest Garden  and Community Orchard Over the winter we planted new trees, shrubs and perennials as replacements and to fill in gaps, including 'Cariad' Cherry, Cornelian Cherry, Cherry Plum, hazel, fig, and Elder 'Haushberg'.  Julia and son Jonah planted an elder 'Hauschberg'. Many of these were funded by the Climate Action Boost, some were from our main project, and also we were given four fruit trees by Keep Wales Tidy. Some of the trees planted in 2019 are flowering now, and we are hopeful of plums and damsons this year. Damson 'Abergwyngregyn' in blossom.  Children's groups at the gardensAfter outdoor activities for children were allowed in Wales, the pre-school Acorns group and the GBDG kid's group started meeting at the gardens for wildlife and craft activities. This week the kid's group had a treasure hunt, made a 'fairy garden' in one of the round willow beds, and planted Second early potatoes 'Nicola' in the vegetable beds. Well done kids!The new 'Fairy house' made by the kid's group. Website updatesThe GBDG website has been refreshed over the past few months to be fully bilingual, and has a calendar of events page. The Climate Action Boost will also enable us to add a new blog and an up to date map. New Youth ProjectWe have some funding from Powys Teaching Health Board to work with young people in the area. Norma McCarten, our GBDG chair, is working on this, and is liaising with teachers and the Well Being Officer at Ysgol Bro Hyddgen Uwchradd, as well as youth workers and community artists, to come up with outdoor activities which local youngsters can enjoy and benefit from. We hope this will help with anti social behaviour which has been an issue recently in the gardens. Drop in sessions, Workshops and Market stallAfter 26th April, we will be continuing our inclusive drop in gardening sessions,  and will start small outdoor workshops - see the upcoming events box. So far, we have a Bird Box workeshop, 'Fruit tree guilds' workshop (for Tree Guardians), Children's Forest School activities, Seedling Saturday event, and an outdoor mushroom growing course. We will be advertising new workshops on our website, facebook page, and local Machynlleth Swapshop newsletter. We will be having monthly stalls at the Machynlleth Wednesday market, from May to August, with organically grown wildflowers, herbs and edibles, all available for donation. Do come and say hello! We hope to see you soon.Gerddi Bro Ddyfi Gardens Team

  • 0 Cylchlythyr y Gwanwyn 2021

    • by Administrator
    • 03-08-2021
    0.00 of 0 votes

    Annwyl ffrindiauCroeso i gylchlythyr y Gwanwyn. Er bod llawer o weithgareddau ein prosiect a ariennir gan y Gronfa Gymunedol ,Tyfu Gyda’n Gilydd, wedi’u hatal yn ystod y cyfnod clo, mae’r gerddi wedi aros yn agored i bawb ac rydyn ni wedi bod yn gweithio i wella’r safle yn ystod misoedd y gaeaf. Erbyn hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau gweithdai ac efallai ddigwyddiadau bach unwaith i’r cyfyngiadau godi. Hefyd yn cael sylw yn ein cylchlythyr heddiw, rydyn ni wedi bod yn ymestyn allan i’r gymuned drwy ein prosiect Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gyda’r Grŵp Llysieuol yn ymestyn y tu hwnt i Gymru – gweler isod.Gwella’r gerddi Dros y gaeaf rydyn ni wedi gorffen y ramp ar gyfer y bont newydd, lledu’r prif lwybr a gosod ymylon a meinciau newydd. Ein gobaith yw y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i fwy o bobl gael mynediad i’r gerddi gan alluogi ymwelwyr i fwynhau’r gwahanol ofodau sydd gynnon ni. Mae’r fainc ‘chaise longue’ newydd a wnaed gan y crefftwr lleol Pete yn rhoi golygfa ar draws y ddôl blodau gwyllt.Bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio ar y pwll bywyd gwyllt, gan leihau lefel y dŵr i’w atal rhag gorlifo dros y prif lwybr ac yn creu ardal lonydd i amffibiaid. Erbyn hyn, rydyn ni’n meddwl bod angen mainc arall er mwyn gwerthfawrogi’r olygfa hyfryd!Yr olygfa dros y pwll bywyd gwyllt tuag at y bont newydd.   Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr HinsawddMae prosiect ‘Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd’, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi’n galluogi i weithio gyda thrigolion a grwpiau lleol sydd wedi gwirfoddoli fel ‘ceidwaid coed’ ym Machynlleth a Dyffryn Dyfi i blannu a gofalu am goed ffrwythau neu gnau ar safleoedd cyhoeddus. Mae’r grŵp ambarél 'Gelli Deg Dyfi' wedi cefnogi’r gwaith yma a bydd yn parhau â’r prosiect pan fydd y cyllid hwn yn dod i ben. Mae Ceidwaid y Coed wedi plannu tua 70 o goed ffrwythau a chnau, gan gynnwys afalau, gellyg, eirin Sbaen, ceirios a chnau Ffrengig, yn ogystal â chyrens duon, llus America a riwbob. Mae’r coed a’r llwyni ffrwythau meddal ar 14 o wahanol safleoedd, gan gynnwys stad dai Bryn y Gog, eiddo cymdeithas dai Barcud, stad y Plas, ysgolion lleol a chwaraefeydd plant yng Nghorris, Ceinws a Glantwymyn. Gwnaethpwyd yr holl blannu o fewn cyfyngiadau Covid-19 i gadw trigolion yn ddiogel. Plannwyd hefinwydden gan Tom a Robin yn stad y Plas. Ceirios melys a sur wrth fynedfa’r Plas a blannwyd gan geidwaid y coed Jay, Sylvie, Amy a Gabi, gyda llewys coed wedi’u saernïo’n lleol. Llysieuyddion Heb FfiniauMae Anita, Cydlynydd Cynorthwyol Gerddi Bro Ddyfi ar gyfer y gwirfoddolwyr, a’r Grŵp Llysieuol sy’n gofalu am Ardd yr Apothecari (sy’n ailddechrau ar ôl 26 Ebrill) yn mynd i weithio gyda Llysieuyddion Heb Ffiniau y DU. Grŵp ambarél yn DU ac Iwerddon yw hwn sy’n casglu llysiau meddyginiaethol i’w rhoi am ddim i ffoaduriaid mewn gwersylloedd ar draws Ewrop. Mae llawer o’r planhigion y mae galw arbennig amdanyn nhw eisoes yn tyfu yn y gerddi cymunedol, fel balm lemon, mintys, camri, marchalan, teim, lafant a mantell Fair. Os hoffech chi fod yn rhan o grŵp canolbarth Cymru cysylltwch drwy anitya@riseup.net neu 07983318893.Yr Ardd Goedwig a’r Berllan Gymunedol Dros y gaeaf, fe wnaethon ni blannu coed, llwyni a phlanhigion lluosflwydd newydd i gymryd lle rhai o’r hen stoc ddarfodedig ac i lenwi bylchau, gan gynnwys coed ceirios ‘Cariad’, cwyrosyn y ceirios a choed coeg-geirios, cyll, ffigys ac ysgaw ‘Hauschberg’.Plannodd Julia a’i mab Jonah ysgawen 'Hauschberg'. Cafwyd cyllid i lawer o’r rhain gan yr Hwb i Weithredu ar Newid yn yr Hinsawdd, roedd rhai o’n prif brosiect a hefyd rhoddwyd pedair coeden ffrwythau i ni gan Cadw Cymru’n Daclus. Mae rhai o’r coed a blannwyd yn 2019 yn blodeuo ar hyn o bryd ac rydyn ni’n gobeithio cael eirin ac eirin Sbaen eleni.Coeden eirin Sbaen 'Abergwyngregyn' yn ei blodauGrwpiau plant yn y gerddiAr ôl i weithgareddau awyr agored i blant gael eu caniatáu yng Nghymru, dechreuodd y grŵp cyn-ysgol, Mes, a grŵp plant Gerddi Bro Ddyfi gyfarfod yn y gerddi ar gyfer gweithgareddau bywyd gwyllt a chrefft. Yr wythnos yma, cafodd grŵp y plant helfa drysor, buon nhw’n gwneud ‘gardd tylwyth teg’ mewn un o’r gwelyau helyg crynion ac yn plannu tatws cynnar ail gnwd Nicola yn y gwelyau llysiau. Da iawn blant!Y Tŷ Tylwyth Teg newydd a wnaethpwyd gan grŵp y plant.Diweddariadau i’r wefanMae gwefan Gerddi Bro Ddyfi wedi cael ei hadfywio dros yr ychydig fisoedd diwethaf i fod yn hollol ddwyieithog ac mae’n cynnwys tudalen calendr digwyddiadau. Bydd yr Hwb i Weithredu ar Newid yn yr Hinsawdd hefyd yn ein galluogi i ychwanegu blog newydd a map cyfredol. Prosiect Ieuenctid Newydd Rydyn ni wedi derbyn rhywfaint o gyllid gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i weithio gyda phobl ifainc yn yr ardal. Mae Norma McCarten, cadeirydd Gerddi Bro Ddyfi, yn gweithio ar hyn ac mae mewn cysylltiad ag athrawon a Swyddog Llesiant Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen, yn ogystal â gweithwyr ieuenctid ac artistiaid cymunedol, i feddwl am weithgareddau awyr agored y gall pobl ifainc leol eu mwynhau a chael budd ohonynt. Ein gobaith yw y bydd hyn yn helpu o ran yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn broblem yn y gerddi’n ddiweddar.Sesiynau galw-heibio, Gweithdai a Stondin yn y FarchnadAr ôl 26 Ebrill byddwn yn parhau â’n sesiynau garddio galw-heibio cynhwysol ac yn dechrau cynnal gweithdai bychain yn yr awyr agored – gweler y blwch sy’n dangos digwyddiadau sydd ar y gweill. Hyd yma, mae gynnon ni weithdy ‘gildiau coed ffrwythau’ (Ceidwaid y Coed), gweithgareddau Ysgol Goedwig i Blant, Ffair Eginblanhigion, a chwrs tyfu madarch awyr agored. Byddwn yn hysbysebu gweithdai newydd ar ein gwefan, tudalen Facebook ac yn y cylchlythyr lleol Machynlleth Swapshop.Byddwn yn cynnal stondin bob mis ym marchnad dydd Mercher Machynlleth o fis Mai tan fis Awst gyda blodau gwyllt, perlysiau a phlanhigion bwytadwy wedi’u tyfu’n organig, i gyd ar gael am rodd. Dewch draw i ddweud ‘helô’!Gobeithio’ch gweld chi yn fuan. Tȋm Gerddi Bro Ddyfi

  • 0 Autumn/Winter Newsletter 2020

    • by Angela Paxton
    • 04-05-2021
    0.00 of 0 votes

    Dear friends Welcome to the Autumn Winter newsletter.  Our Lottery funded project, Growing Together/Tyfu Gyda'i Gilydd, is continuing,  with new measures to keep volunteers, staff and visitors safe. We are pleased to be running our regular Tuesday and Thursday drop in sessions and two workshops per month,except for the 'firebreak' lockdown in late October/November. We used this time to make accessible ramps for the new bridge. Also, many community groups are using the gardens as a space where people can meet safely.Shelter alterations To make the shelter safer for our drop in sessions and workshops, Anita, Assistant Volunteer Coordinator, worked with volunteers to take out the partition in the shelter, and the perspex windows, which has opened up the building and increased air circulation. The building is now much better for social distancing. Local groups, including Machynlleth 1st Cubs, a samba drumming group, Machynlleth Meditation group, XR Machynlleth,  Acorns pre school group and others, have started to use the gardens and newly opened up shelter which makes it easier to have organised activities within restrictions.  Machynlleth Meditation Group did a Sacred Spaces retreat and workday at the gardens.  WorkshopsOur Tyfu Gyda'i Gilydd/ Growing Together workshops have been continuing. We have kept groups small, often having a few shorter sessions with small numbers at each, to keep people safe. Since September we have had drawing with natural inks and materials, outdoor yoga, qi gong, bramble weaving, skep making for beekeepers, seasonal wreath making, and will be having a 'Lichens on Twigs' workshop on Saturday 12th December.  A beautiful seasonal wreath made at our recent workshop, all with natural materials from the Dyfi Valley.  In the new year we will be having workshops for bench making, fruit grafting, nature sculpture, bat box making and others. Please get in touch if you have an idea for a small community workshop. Path improvements and new accessible bridgeAfter feedback from our accessibility survey last year we have been working to improve the main path to the gardens.  Volunteers have put in new edging to make the path wider for wheelchair users, and have brought gravel dust to lay down a new surface. So far our incredible volunteers have barrowed nearly 16 tonnes of gravel to the gardens! At last we have our new accessible bridge to alleviate flooding which has been such a problem in the past few years. Children are pleased to be able to play 'pooh sticks' on the bridge too. The new bridge is open for 'pooh sticks'. In the next month we going to put in some new steps leading from the new ramp towards the rocket bird hide, and are exploring  natural methods to retain the banks of the stream where the path and drainage pipe were taken out. We trust that we will now have fewer problems with flooding, and our gardens will be accessible most of the time. Climate Action BoostGerddi was offered a Climate Action Boost by the National Lottery Community Fund, as a top up to our main Tyfi gyda'i gilydd/ Growing Together project. After the success of last years' community orchard planting, and conversations with local people, we decided to ask to use the money to plant fruit and nut trees around our town of Machynlleth.We were successful with this application and an umbrella group,  'Gelli Deg Dyfi Food Forest' has been formed, which includes community groups such as Edible Mach Maethlon and Llais y Goedwig, and local residents.  Gerddi is leading this as a separate project from our usual activities.Members of the group have raised awareness of the project through a community market stall, a Tree Charter event, and bilingual leaflets, to encourage local residents to become 'Tree Guardians' as part of the project. Tree Guardians will choose their own fruit or nut tree, plant it (or we will help) and learn how care for it with free training.  Gelli Deg Dyfi Food Forest stall on Tree Charter day, with one way system, track and trace, and other Covid event precautions.  Winter plantingWe have continued with planting small trees and shrubs in the gardens to provide free fruit and nuts and benefit local wildlife. Volunteers have planted a welsh Cariad Cherry, two Cornelian Cherries (Cornus mas Kazalak and Shurien), two elders, including a welsh Sambucus nigra Cae Rhos Lligwy, a goumi (Eleagnus umbellata Garnet), and hazels, which will be for beanpoles as well as nuts. We have used native edible mycorhizzae with the plantings ('Chaos fungorum'), to improve tree and shrub growth, and which we hope will yield edible mushrooms in years to come.  Volunteer Jay plants a bare root tree in our community orchard.   Website updateWe are using some of our publicity money from the Tyfu Gyda'i Gilydd/Growing Together project, to make updates to our website, which will include a new blog for the gardens, and a calendar to show up-coming events. We hope this will be completed by the New Year. We are considering incorporating this newsletter into the new website, and would be grateful to hear your views on if you find it helpful to get an e-newsletter or if you would be happy to get updates on the website. Do please let us know what you think.Gardens CalendarUnfortunately we were not able to put together a calendar for this coming year, as we did not have enough high resolution photos, but we hope to do this next year. If you visit the gardens and take high resolution photos, we would love to see them.  A wintry photo from the gardens by regular visitor Jeanette.  We hope to see you soon.Gerddi Bro Ddyfi Gardens Team

  • 0 Cylchlythyr yr Hydref/Gaeaf 2020

    • by Angela Paxton
    • 04-05-2021
    0.00 of 0 votes

    Newidiadau i’r lloches I wneud y lloches yn fwy diogel ar gyfer ein sesiynau galw heibio a’n gweithdai, bu Anita, ein Cydlynydd Cynorthwyol ar gyfer y gwirfoddolwyr, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i dynnu’r palis pren yn y lloches a’r ffenestri persbecs gan greu mwy o le yn yr adeilad a chynyddu’r cylchrediad aer. Mae’r adeilad bellach yn well o lawer o ran cadw pellter cymdeithasol.  Mae grwpiau lleol, gan gynnwys Cybiau 1af Machynlleth, grŵp drymio samba, Grŵp Myfyrio Machynlleth, XR Machynlleth, grŵp cyn ysgol Acorns ac eraill wedi dechrau defnyddio’r gerddi a’r lloches ar ei newydd wedd sy’n ei gwneud yn haws trefnu gweithgareddau o fewn y cyfyngiadau.  Cynhaliodd Grŵp Myfyrio Machynlleth encilfa Mannau Sanctaidd a diwrnod gwaith yn y gerddi.  GweithdaiMae ein gweithdai Tyfu Gyda'n Gilydd wedi parhau. Rydyn ni wedi cadw grwpiau’n fach, yn aml yn cynnal ychydig sesiynau byr gyda niferoedd bach ym mhob un i gadw pobl yn saff. Ers mis Medi rydyn ni wedi cael arlunio ag inciau a deunyddiau naturiol, ioga awyr agored, qi gong, plethu mieri, gwneud sgepiau i wenynwyr, gwneud torchau Nadoligaidd a byddwn yn cynnal gweithdy ‘Cennau ar Frigau’ ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr.   Torch Nadoligaidd hardd a wnaethpwyd yn ein gweithdy diweddar, i gyd â deunyddiau naturiol o Ddyffryn Dyfi.  Yn y flwyddyn newydd byddwn ni’n cynnal gweithdai gwneud meinciau, impio coed ffrwythau, cerfluniau natur, gwneud blychau ystlumod a phethau eraill. Cysylltwch â ni os oes gynnoch chi syniad ar gyfer gweithdy cymunedol bach. Gwelliannau i lwybrau a phont hygyrch newyddYn sgil adborth o’n harolwg hygyrchedd y llynedd rydyn ni wedi bod yn gweithio i wella’r prif lwybr i’r gerddi. Mae gwirfoddolwyr wedi gosod ymylon newydd i wneud y llwybr yn lletach ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac wedi dod â llwch gro i greu wyneb newydd. Hyd yn hyn, mae ein gwirfoddolwyr anhygoel wedi whilbera 16 o dunelli o ro i’r gerddi!  O’r diwedd mae gynnon ni ein pont hygyrch newydd i liniaru unrhyw lifogydd, rhywbeth sydd wedi bod yn gymaint o broblem yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae plant yn falch o allu chwarae 'pooh sticks' ar y bont hefyd.  Mae’r bont newydd ar agor ar gyfer 'pooh sticks'. Yn ystod y mis nesaf rydyn ni’n mynd i osod rhai grisiau newydd yn arwain o’r ramp newydd tuag at y guddfan roced ac yn ystyried dulliau naturiol o gynnal glannau’r nant lle tynnwyd y llwybr a’r bibell ddraenio. Hyderwn y bydd gynnon ni lai o broblemau bellach gyda llifogydd a bydd ein gerddi’n hygyrch am y rhan fwyaf o’r amser. Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr HinsawddCynigiwyd Hwb i Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd i’r Gerddi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel taliad atodol i’n prif brosiect Tyfu Gyda’n Gilydd. Ar ôl ein llwyddiant wrth blannu perllan gymunedol y llynedd a thrafodaethau â phobl leol, dyma ni’n penderfynu gofyn am ddefnyddio’r arian i blannu coed ffrwythau a chnau o gwmpas Machynlleth. Roedden ni’n llwyddiannus gyda’r cais hwn ac mae grŵp ambarél, 'Gelli Deg Dyfi' wedi’i ffurfio sy’n cynnwys grwpiau cymunedol fel Mach Maethlon a Llais y Goedwig a thrigolion lleol. Mae’r Gerddi’n arwain hwn fel prosiect ar wahân i’n gweithgareddau arferol. Mae aelodau o’r grŵp wedi codi ymwybyddiaeth o’r prosiect drwy stondin farchnad gymunedol, digwyddiad Siarter y Coed a thaflenni dwyieithog i annog trigolion lleol i ddod yn ‘Geidwaid Coed’ fel rhan o’r prosiect. Bydd y Ceidwaid Coed yn dewis eu coeden ffrwythau neu gnau eu hunain, ei phlannu (neu mi wnawn ni helpu) ac yn dysgu sut i ofalu amdani gyda hyfforddiant am ddim.  Stondin Gelli Deg Dyfi ar ddiwrnod Siarter y Coed, gyda system unffordd, tracio ac olrhain a rhagofalon Covid eraill ar gyfer digwyddiadau yn eu lle.  Plannu’r gaeafRydyn ni wedi parhau i blannu coed bach a llwyni yn y gerddi i ddarparu ffrwythau a chnau am ddim ac er lles bywyd gwyllt lleol. Mae gwirfoddolwyr wedi plannu ceiriosen Gymreig, Cariad, dwy geiriosen y cwyros (Cornus mas Kazalak a Shurien), dwy ysgawen, gan gynnwys Sambucus nigra Gymreig, Cae Rhos Lligwy, a llwyn gwmi (Eleagnus umbellata Garnet), a choed cyll ar gyfer polion ffa yn ogystal â chnau. Rydyn ni wedi defnyddio mycorhizzae bwytadwy brodorol wrth blannu (Chaos fungorum), i wella twf y coed a’r llwyni ac a fydd gobeithio yn esgor ar fadarch sy’n dda i’w bwyta yn y blynyddoedd i ddod.  Jay, un o’n gwirfoddolwyr, yn plannu coeden â gwreiddiau moel yn ein perllan gymunedol. Diweddariadau i’r wefanRydyn ni’n defnyddio peth o’n harian cyhoeddusrwydd o’r prosiect Tyfu Gyda'n Gilydd i wneud diweddariadau i’n gwefan a fydd yn cynnwys blog newydd i’r gerddi a chalendr i ddangos digwyddiadau sydd ar y gweill. Ein gobaith yw y bydd hwn wedi’i gwblhau erbyn y Flwyddyn Newydd. Rydyn ni’n ystyried ymgorffori’r cylchlythyr hwn yn y wefan newydd a bydden ni’n falch o glywed a fyddai’n well gynnoch chi dderbyn e-gylchlythyr neu a fyddech chi’n hapus cael diweddariadau ar y wefan. Da chi, rhowch wybod i ni be’ rydych chi’n feddwl. Calendr y GerddiYn anffodus, doedd dim modd i ni roi calendr at ei gilydd ar gyfer y flwyddyn i ddod gan nad oedd gynnon ni luniau digon eglur, ond ein gobaith yw gwneud hyn y flwyddyn nesaf. Os ydych yn ymweld â’r gerddi ac yn tynnu lluniau eglur iawn bydden ni wrth ein boddau eu gweld nhw. Llun gaeafol o’r gerddi gan un o’n hymwelwyr rheolaidd Jeanette.  Gobeithio’ch gweld chi yn fuan. Tȋm Gerddi Bro Ddyfi