Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Gerddi Bro Ddyfi

Map of Gerddi Bro ddyfi

Dros y deuddeng mlynedd diwethaf, mae Gerddi Bro Ddyfi wedi tyfu o’u cychwyn ysbrydoledig i fod yn ofod gwerthfawr ffyniannus sy’n ffurfio rhan annatod o’n cymuned.

Dechreuodd y cyfan yn 2008, pan oedd y sefydlwyr, Kate Doubleday a Leigh Munton, yn rhedeg cyfres o gyrsiau garddwriaethol byrion gan sylweddoli nad oedd unrhyw ffordd i bobl ddal ati i arddio mewn ffordd gymdeithasol.

Dros y naw mlynedd nesaf buon nhw’n cydweithio â thîm o wirfoddolwyr a thrigolion lleol ymroddedig i adeiladu gwelyau llysiau wedi’u codi, lloches, pwll, gweirglodd blodau gwyllt a llawer o nodweddion eraill, gan greu gardd bywyd gwyllt therapiwtig hardd i’r gymuned yng nghanol Machynlleth.

Digwyddodd y rhan fwyaf o hyn drwy gyfuniad o sesiynau galw heibio wythnosol a phrosiectau untro a gweithdai oedd yn agored i unrhyw un oedd eisiau dysgu mwy am bethau fel adnabod blodau gwyllt a phryfed, trwsio a chynnal a chadw offer, crymanu, plethu helyg, plannu tymhorol a llawer iawn mwy.

Yn 2017, dyma Kate yn pasio’r menig garddio ymlaen i Angela Paxton, ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr ar hyn o bryd, ac mae’r gerddi’n parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chynlluniau plannu coed, cyrsiau garddio i ddechreuwyr a datblygu gardd y llysiau llesol yn rhai yn unig o’n gweithgareddau parhaus.

Yn 2018 buon ni’n dathlu ein deng mlwyddiant gan groesawu Alys Fowler fel ein Noddwr newydd. Yn 2019, ymunodd Anita O’Flynn â ni fel ein Cydlynydd Cynorthwyol ar gyfer gwirfoddolwyr, ac ochr yn ochr â’n digwyddiadau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Gweirgloddiau, cynhalion ni ein Gŵyl Beillwyr gyntaf ar y cyd â Mach Maethlon. Drwy’r cwbwl, mae’r pwyllgor a’r cydlynwyr wedi parhau i godi arian a gwneud ceisiadau a 2019 oedd y flwyddyn hefyd y derbynion ni grant Pobl a Lleoedd gan y Loteri Genedlaethol.

Yn 2020, dechreuon ni drwy blannu ‘gwrych maethlon’ o lwyni ffrwythau a choed ffrwythau bach ar hyd ymyl gogleddol y gerddi a thipyn o wefr oedd derbyn gwobr baner werdd gan Ymgyrch Cadw Cymru'n Daclus am y chweched flwyddyn o’r bron! Ers hynny, mae’r cyfyngiadau coronafeirws wedi cael effaith bellgyrhaeddol wrth gwrs ond, diolch i gefnogaeth ac ymroddiad diflino ein gwirfoddolwyr a’n cydlynwyr, nid yn unig y mae’r gerddi wedi aros yn agored ond maen nhw wedi parhau i ffynnu.

Os hoffech chi gael gwybod mwy, dod heibio neu gymryd rhan, cynhelir ein sesiynau galw heibio bob dydd Mawrth a dydd Iau 10.30yb - 4.00yp oni nodir fel arall ac mae ein gweithdai’n cael eu cynnal yn fisol. Gweler ein tudalen ddigwyddiadau am yr wybodaeth ddiweddaraf.