Placeholder image
English LanguageWelsh Language

Mae Gerddi Bro Ddyfi yn darparu ac yn hyrwyddo gardd bywyd gwyllt gymunedol a therapiwtig i bawb sy’n byw ym Mro Ddyfi ac yn enwedig i’r rheini sydd mewn perygl o gael eu cau allan yn gymdeithasol.

Helpwch ni i ddal ati a thyfu

Mae Gerddi Bro Ddyfi Gardens yn adnodd y mae’r gymuned yn meddwl llawer ohono, ond mae arnom angen eich help i ddal ati a thyfu! Byddai eich rhodd yn cael ei defnyddio yn ddiolchgar i gynnal ein gerddi amrywiol – sy’n cynnwys borderi neithdar, gwrychoedd i fywyd gwyllt, gardd apothecari, dolydd o flodau gwylltion a pherllan gymunedol – hafanau i bobl a bywyd gwyllt. Bydd hefyd yn ein helpu i barhau i gynnig sesiynau garddio y gall pawb alw i mewn iddynt, cynnal gweithdai cyhoeddus am ddim, prynu offer i’n gwirfoddolwyr a dal ati i ysbrydoli ein llu o ymwelwyr i arddio er budd bywyd gwyllt gartref.

Donate by Paypal

Cymerwch Ran!

Mae’r ardd ar agor yn barhaol i’r gymuned ac mae’n swatio yn nhir cyhoeddus y Plas. Dilynwch y llwybr i lawr heibio trac y pwmp i ddod o hyd inni.

Darperir diodydd poeth a byrbrydau, a’r holl offer garddio angenrheidiol. Does dim angen unrhyw brofiad arnoch! Edrychwn ymlaen at eich gweld

Golygfeydd o’r ardd